Lawrlwythwch y pdf canlynol sy'n darparu gwybodaeth ar y prosiectau.
Llyfryn Ysbryd y Mwynwyr
Dyma'r prosiect sydd wedi cael cymorth:
Dyfarnwyd grant werth £2920 i
Grŵp Safleoedd Daearamrywiol Rhanbarthol Bwysig Canolbarth Cymru i roi adroddiad i'r cyhoedd am gyd-destun daearegol cloddio metelifferaidd yng Ngheredigion fel cefndir ar gyfer treftadaeth gloddio Maes Mwynau Canolbarth Cymru.
Prosiect gwerth £80,000 i sefydlogi a diogelu'r simnai garreg fel cofadail parhaol i dreftadaeth gloddio gogledd Ceredigion.
Dyfarnwyd grant gwerth £3852 i gynhurchu taflen sy'n rhoi crynodeb hanesyddol cyffredinol fel cefndir i ddealltwriaeth, diogelu a hyrwyddo treftadaeth Cloddio Metel Ceredigion.
Dyfarnwyd grant werth £3440 i gofnodi storiau am hanes pentref Pontrhydfendigaid ar ffurf murlun sydd wedi'i leoli ar ochr adeilad yn y pentref.
Dyfarnwyd grant gwerth £24,000 i ymgymryd mewn arolwg a raglen o gloddio yn yr ardal o fwynfeydd hynafol sydd a chysylltiad â'r Abaty a Bronberllan. Cynhaliwyd hefyd penwythnos o arddangosfeydd ar dechnegau gwaith metel hynafol.
Dyfarnwyd grant werth £38,000 i ddatblygu teithiau cerdded sy'n cysylltu ardaleodd mwyngloddio gogledd Ceredigion.
Aeth Grwp RIGS ati i gynhyrchu llyfryn o'r enw "Daeareg Mwyngloddio Canolbarth Cymru" sy'n rhoi cyd-destun daeareg i fwyngloddio metel yn Ucheldir Ceredigion.
Atgyweirio beth a gredwyd yw yr unig enghraifft o'r unig ystorfa steil Cernywig sydd ar ol yng Nghymru ac sydd wedi'i leoli yn Amgueddfa Mwyngloddio Arian-blwm Llywernog.
Prosiect a gliriodd tipio anghyfrithlon oddi ar safle hanesyddol ger Pontrhydygroes sydd a chysylltiad â diwydiant mwyngloddio Ceredigion. Cafodd y safle ei ddehongli er mwyn i bawb medru cael gwell dealldwriaeth o'r adeilad.
Bwriad y prosiect oedd i hysbysebu hanes mwynfeydd gogledd Ceredigion i gymunedau'r ardal trwy ddefnyddio arddangosfeydd gweledol a chelfyddydau perfformiadol, digwyddiadau a gweithfeydd addysgol.
Bwriad y prosiect fydd i greu sgript ffilm 90 munud yn seiliedig ar stori hynod ond sydd heb gael ei adrodd o ddigwyddiadau yng ngwaith mwyn Frongoch yn 1900. Cynorthwyir creu y sgript ffilm gan weithwyr proffesiynol y diwydiant teledu o fewn Boomerang gyda golwg o gyfiethu'r sgript i'r ffilm.
Llwybrau Cerdded Ceulanamaesmawr
Dilynwch llwybrau'r mwynwyr yn ardal Ceulanamaesmawr yng ngogledd Ceredigion gan fynd ar daith ar hyd llwybrau cerdded a fu un amser yn cael eu defnyddio i fynd o'r pentrefi lleol i'r mwyngloddiau. Mae treftadaeth yr ardal wedi cael ei hyrwyddo gan fyrddau dehongli, taflen sydd ar gael yn lleol a ffeiliau mp3 sydd yn medru cael eu lawrlwytho.
Teithiau Darganfod y Cambrians
Bydd y prosiect yn cynnwys cyfres o deithiau a gwibdeithiau fydd yn mynd a dwristiaid o Aberystwyth i fynyddoedd y Cambrians. Bydd y daith yn mynd a ymwelwyr i atyniadau gan gynnwys Amgueddfa Arian blwm LLywernog, Yr Hafod a Chwmystwyth.
Murluniau hanesyddol Ysbyty Ystwyth
Cynhyrchwyd 22 o baneli tecstilau gan amryw o grwpiau o fewn y pentrefi sy'n portreadu digwyddiadau hanesyddol sydd wedi siapio datblygiad ardaloedd Ysbyty Ystwyth, Pontrhydygroes and New Row.
Amgueddfa Ceredigion
Prosiect i wella'r arddangosfa mordwyo a mwyngloddio plwm yn yr amgueddfa.
'The Falls Experience'
Mae prosiect “The Waterfalls Experience” wedi ei leoli yn atyniad rhaeadrau Pontarfynach. Lleolir yr atyniad yng nghalon ardal mwyngloddio Ceredigion rhwng mwyngloddiau “Temple” a Chwmystwyth. Mae'r prosiect yn cynnwys gwella adnoddau yr atyniad i ymwelwyr.
'Afonydd i'r Môr'
Bwriad y prosiect oedd i greu cysylltiadau rhwng harbwr Aberystwyth a hen safleoedd mwyngloddio sydd yn nghefn gwlad. Gwelir dwy sedd sydd yn gwneud y cysylltiad yma, un yn Llanilar ar Lwybr yr Ystwyth a'r llall yn harbwr Aberystwyth.
'Beddrodau'r Gorffennol'
Prosiect fydd yn casglu gwybodaeth a chatalogio beddau ym mynwent Eglwys yr Hafod, Cwmystwyth. Bydd y wybodaeth ar gael i ymwelwyr ar ffurf byrddau dehongli a gwasanaeth cyffwrdd interactif.
Ar gof a chadw
Mae'r prosiect wedi cynnwys casglu a crynhoi gwybodaeth ar hanes clywedol a gweledol tri cymuned o Ysbyty Ystwyth, New Row a Phontrhydygroes gan greu dvd.
Rhod ddŵr Pontrhydygroes
Mae'r prosiect wedi cynnwys gosod rhod ddŵr ym Mhontrhydygroes, pentref sy'n gyfystyr â mwyngloddiau metel Lisburne a fu'n gweithredu yn yr ardal yn ystod y 18fed a'r 19eg ganrif.