Bu llawer o ddiddordeb yn ddiweddar mewn ail-greu technegau mwyngloddio yr Oes Efydd. Cafwyd yr ail-greu yn ystod penwythnos 15fed & 16eg o Orffennaf yn Fferm Dolebolion, Pontrhydfendigaid, fel rhan o gynllun Ysbryd y Mwynwyr gan ddenu oddeutu 100 o ymwlewyr dros y penwythnos.
Arweiniwyd yr arddangosfeydd a'r gweithdai gan Simon Timberlake a Brenda Craddock, aelodau o'r Grŵp Ymchwil Mwynfeydd Cynnar.
Roedd uchafbwyntiau'r digwyddiad yn cynnwys gweithdai ar Ddydd Sadwrn ar gyfer gwneud morthwylion Oes Efydd gan ddefnyddio defnyddiau dilys ac arddangosfa o gynnau tân, ar Ddydd Sul roedd arddangosfa o wneud meginau a chyfle i wylio ail-greu technegau mwyndoddi cynnar.
Dywedodd Simon Timberlake “Roedd y penwythnos yn llwyddiant mawr. Mae'n galonogol gweld cymaint o bobl â diddordeb mewn mwyngloddio cynnar. Mae Ceredigion yn gartref i un o fwynfeydd cynharaf yr Oes Efydd ym Mhrydain, yn Rhiw Copa, Cwmystwyth, sydd yn oddeutu 4,000 mlwydd oed. Mae llawer o bobl heb wybod am y safle arwyddocaol hwn a'i bwysigrwydd rhyngwladol. Nodwyd oddeutu saith safle gyda thystiolaeth o fwyngloddio metel cynhanesyddol a daethpwyd o hyd i a dyddiwyd olion chwilio am fwynau o fewn y sir.
Ychwanegodd Simon Timberlake “Roedd yr arddangosfa mwyndoddi yn llwyddiant mawr gyda'r arbrawf yn cynhyrchu 445 gram o Gopr o gilogram o fwyn malachit. Canlyniad derbyniol iawn ar gyfer technegau mwyndoddi cynnar.
Arweiniwyd taith dywys o gwmpas Bron y Berllan ger llaw gweithfeydd mwyn gan David Austin, Pennaeth Archaeloeg ym Mhrifysgol Llanbedr Pont Steffan ar Ddydd Sul.
Byddai prosiect Ysbryd y Mwynwyr yn hoffi diolch i'r rhai hynny a fu yn bresennol yn y digwyddiad, y Grŵp Ymchwil i Fwynfeydd Cynnar ac yn enwedig Non ac Eleri Jones, perchnogion Fferm Dolebolion am eu cymorth.