Jump to content
Title: Ysbryd y Mwynwyr - Spirit of the Miners
Waterwheel at LlywernogWheelhouse, Bryn yr ArianYstrad Einion
 
Water Wheel

Pyllau Talybont

Hugh Myddleton
Hugh Myddleton

Chwaraeodd ddiwydiant ran flaenllaw yn natblygiad pentref Tal-y-bont. Roedd copr, arian a phlwm yn cael eu cloddio yn yr ardal erbyn yr 16eg ganrif, ond erbyn yn gynnar yn yr 17eg ganrif roedd mwyngloddiau Ceredigion mewn cyflwr o esgeulustod.

Erbyn y 1620au ail agorwyd amryw o fwyngloddiau gan Syr Hugh Myddleton o'r Gymdeithas Mwyngloddiau Brenhinol. Roedd y rhain yn cynnwys mwynglawdd yn Nhal-y-bont, ac fe agorwyd mwyndoddfa hefyd er mwyn prosesu mwynau metal cyfoethog yr ardal.




Cymerodd Thomas Bushell at brydlesau'r mwyngloddiau ym 1636 ac fe gyflwynodd y dechneg o yrru ceuffyrdd i mewn i ochrau'r bryniau i ddraenio dŵr allan o'r gweithfeydd mwyn. Daeth ei lwyddiant cyntaf ym 1641 ar Alltycrib, pan lwyddodd ei ddynion i ddraenio hen weithfeydd a darganfod mwynau arian a phlwm gwerthfawr. .


Pwll Arian-Plwm <br />Talybont 1870
Pwll Arian-Plwm
Talybont 1870

Gellir gweld Lefel Bushell yn y coed wrth ben y pentref o hyd. Mae wedi'i gau erbyn hyn ond, yn ystod yr Ail Ryfel Byd, fe'i defnyddiwyd gan blant yn ysgol y pentref fel cysgodfan rhag cyrchoedd awyr.

Erbyn 1871, yn anterth y mwyngloddio ym maes mwyn Ceredigion, y mwyngloddiau lleol oedd un o brif ffynonellau cyflogaeth yn y pentref.

Roedd y diwydiant yn cynnal amrywiaeth eang o grefftau eraill hefyd, gan gynnwys seiri coed, seiri maen a gofaint. Dengys canlyniadau cyfrifiadau'r 19eg ganrif bod yno gwehyddion, gwneuthurwyr watshis, brethynwyr, groseriaid, teilwriaid a gwniadyddesau a oedd yn darparu ar gyfer y boblogaeth leol.

Croes doriad Alltycrib
Croes doriad Alltycrib

Roedd mwynwyr lleol yn gweithio mewn nifer o fwyngloddiau plwm a chopr yn yr ardal. Safai Mwynglawdd Arian-Plwm Tal-y-bont yng nghanol y pentref ac roedd ganddo lawer o weithfeydd ar Alltycrib.

Bu rhai dynion yn gwneud y daith hir i fwynglawdd Esgairhir, bron i 10km i'r dwyrain. Yn ystod yr wythnos roedd y rhan fwyaf ohonynt yn byw yn y baracs, gan ddychwelyd ar nosweithiau Sadwrn i gasglu eu tâl yn nhafarn y Llew Du ac i dreulio eu Suliau gartref.

Yn gynnar yn yr 20fed ganrif, arweiniodd prisiau isel mwynau ar farchnad y byd at ddirywiad mwyngloddio yn yr ardal. Dim ond dyrnaid o fwyngloddiau oedd yn gweithio erbyn y Rhyfel Byd Cyntaf a daeth y traddodiad i ben yn fuan wedi hynny. Pan gaeodd y mwyngloddiau plwm aeth llawer o fwynwyr Tal-y-bont i byllau glo de Cymru. Aeth rhai ymhellach fyth, i wledydd eraill, gan gynnwys Rwsia, America a Cholombia.
Logo Talybont
Logo Talybont

Siop Edward Evans
Siop Edward Evans

Siâr Pwll Talybont
Siâr Pwll Talybont

Baracs Esgair-hir
Baracs Esgair-hir

Tip sbwriel
Tip sbwriel


Y bwrdd dehongli yn Nhalybont

Y panel dehongli yn Nhalybont - cewch darllen testun y panel uchod


Darllenwch mwy am gefndir y prosiect a'i waith yn: Tre'r Ddôl, Furnace, Taliesin, Bontgoch neu wrando ar y ffeiliau sain.