Oherwydd eu natur mae mwyngloddiau segur a'u tomenni rwbel yn hynod agored i amrediad eang o weithgareddau.
Er enghraifft defnyddir tomenni rwbel yn fynych fel ffynhonnell gerrig cyfleus ac ar gyfer llunio traciau, tra defnyddir siafftiau mwyngloddiau, ceuffyrdd a mwyngloddiau brig yn aml fel man i adael sbwriel amaethyddol a domestig.
Drwy weithio gyda thirfeddianwyr a thenantiaid, mae Cyngor Cefn Gwlad Cymru a'r Grŵp Safleoedd Daraeamrywiol Rhanbarthol Bwysig Canolbarth Cymru yn ceisio hyrwyddo 'arfer gorau' drwy ddiogelu ein Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig a Safle Daearamrywiol Rhanbarthol Bwysig.
Gellir gwneud hyn mewn nifer o ffyrdd, er enghraifft drwy ddarparu cyngor gwyddonol a thechnegol ar safle a gweithredu cytundebau rheoli a gyllidwyd. Gobeithir y bydd cymorth gwirfoddol ar gael drwy Grŵp Safleoedd Daearamrywiol Rhanbarthol Bwysig Canolbarth Cymru.
Am fwy o wybodaeth ar y testunau uchod, gweler y canlynol:
•
RIGS
•
Cadw
•
Asiantaeth yr Amgylchedd
•
Archaeoleg Cambria