• Sy'n wlad agored (tir sydd yn gyfan gwbl neu'n bennaf yn fynydd, yn waun, yn rhos, neu'n dwyn);
• Sydd wedi'i gyflwyno'n dir mynediad CRoW o dan y Ddeddf;
• Sy'n dir comin cofrestredig sydd wedi'i gofrestru am y tro olaf ac sy'n cael ei ddangos ar y cofrestru tir comin.
Does dim modd i adnabod tir mynediad CRoW yn ô lei olwg yn unig; felly mae tir mynediad CRoW wedi'i fapio gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru. Efallai y bydd ffiniau tir mynediad CRoW i'w gweld ar y ddaear ar ffurf symbol:
Mae darnau tir mynediad CRoW a'r mwyafrif o'r ardaloedd eraill y mae'r cyhoedd yn cael mynd iddyn nhw, yn cael eu dangos ar fapiau graddfa 1:25,000 Explorer ac mae ganddyn nhw ymyl oren-frown a lliw cefndir melyn.
Felly i gael y mwyaf allan o gefn gwlad ac i helpu ei gynorthwyo i'r dyfodol dilynwch y Côd Cefn Gwlad.
Côd Cefn Gwlad
Parchwch • Diogelwch • Mwynhewch
Dilynwch y Côd Cefn Gwlad ble bynnag yr ewch. Trwy wneud hyn, fe fyddwch yn gwneud yn fawr o gefn gwlad ac yn cynorthwyo i'w gynnal yn awr ac ar gyfer y dyfodol.
• Byddwch yn ddiogel - cynlluniwch o flaen llaw a dilynwch unrhyw arwyddion. • Gadewch glwydi ac eiddo fel rydych chi'n eu cael nhw. • Ewch â'ch sbwriel gartref, a gofalwch warchod bywyd gwyllt. • Cadwch eich ci dan reolaeth dynn. • Byddwch yn ystyriol o bobl eraill.
I gael gwybod sut a ble i gael mynediad i gefn gwlad, cyfeiriwch at Cyngor Cefn Gwlad Cymru.
I gael gwybodaeth am hawliau tramwy cyhoeddus, cysylltwch â adran Arfordir a Chefn Gwlad y Cyngor Sir trwy wefan Gyngor Sir Ceredigion a dilynwch y dolenni i'r adran arfordir a chefn Gwlad neu e-bostiwch