Jump to content
Title: Ysbryd y Mwynwyr - Spirit of the Miners
Ystrad EinionWheelhouse, Bryn yr ArianOchre
 

Cwmsymlog



"The richest in lead & silver of any in his majesty's dominions"

(Lewis Morris - 1744)

Fap o Gwmsymlog gan Lewis Morris

Mae cloddfeydd a phentref bach anghysbell Cwmsymlog yn meddu ar un o'r unig simneiau cloddfeydd y gellir troi atynt, yn y sir. Arferai'r safle hanesyddol hwn gynhyrchu cyfoeth o arian, a fyddai'n cael ei fathu yn ddarnau arian yng nghastell Aberystwyth.
Dyffryn Gwmsymlog


Gallwch weld olion mwyngloddio brig yn yr hen weithfeydd mwyn, a elwid yn Blaen Cwmsymlog neu 'East Darren', ac sy'n dyddio o ddiwedd y 19eg Ganrif.

Mae nifer o olion hanesyddol y dyffryn wedi diflannu o ganlyniad i raglen coedwigo dwys yn yr 1960'au a'r fenter anferth i adennill tir yn ystod yr 1980'au.



Capel Cwmsymlog yn y cefndir

Bu cloddio mawr yn yr ardal hon o Fanc y Darren i Flaen Cwmsymlog dros y blynyddoedd. Mae hyn yn amlwg yn ôl y tomenni pridd gwastraff a'r dirwedd a greithiwyd sydd i'w gweld wrth deithio i gyfeiriad Cwmsymlog.
Mae'r gweithfeydd cynharaf ar Fanc y Darren yn dyddio'n ôl i'r Oes Haearn mae gwrthglawdd y fryngaer yn torri'r wythïen fwyn. Fodd bynnag, mae'r cloddio diweddaraf wedi dileu y rhan fwyaf o olion y mwyngloddio cynnar.

Wrth ddefnyddio ychydig o ddychymyg, gallwn ddychmygu sut yr oedd y dirwedd yn ymddangos i Syr Hugh Myddelton, Syr Humphrey Mackworth, Thomas Bushell a'r 'Company of Mine Adventurers' wrth iddynt wneud eu harian yn yr 1600'au.
Simne Cwmsymlog wedi'i gwblhau




Mae'r gwaith o atgyweirio er mwyn cynnal a chadw simnai'r Hen Dŷ Injan, sy'n dyddio o'r 19eg Ganrif erbyn hyn wedi gorffen. Bu'r Cyngor Cymuned yn llwyddiannus a cael arian oddi wrth CADW ac Ysbryd y Mwynwyr.
Mae'r ardal hefyd wedi cael ei ddatblygu ac mae na wybodaeth ar gael a fydd yn esbonio'r amrywiol agweddau o fewn y dyffryn, gan gynnwys ei botaneg unigryw a hanes a daeareg yr ardal.



Byrddau dehongli yn Cwmsymlog



Mae'r llwybr troed hir sy'n ymestyn o Borth i Bontarfynach yn gwau drwy'r dyffryn. Mae hefyd yn bosibl i gyrraedd y dyffryn ar feic mynydd o Ganolfan Ymwelwyr Bwlch Nant Yr Arian.






Mae rhan helaeth o'r safle wedi'i ddynodi'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA), yn Heneb wedi'i rhestri yn ogystal â bod yn gartref i drigolion Cwmsymlog.


A fyddech gystal â pharchu natur arbennig y dyffryn a phreifatrwydd y trigolion wrth geisio darganfod yr hanes sydd wedi mynd ar goll.


>>>> Lleoliadau i'w gweld