“About the middle of this Wstwith valley that I ride in, being as I guess three miles in length, I saw on the right hand of the hill side Cloth Moyne, where hath been a great digging for leade, the smelting whereof hath destroid the woodes that sometime grew plentiful thereabout”
John Leyland (1506 – 1552) - Hynafiaethydd to King Henry VIII
Mae Cwm ysblennydd Ystwyth yn llwybr hamdden poblogaidd rhwng Aberystwyth a Rhaeadr Gwy. Yng Nghwmystwyth, byddwch yn teithio drwy'r safle cloddio metel hynaf a gofnodwyd yn y DU – tua 4000 o flynyddoedd oed. Mae ehangder olion y gwaith diweddarach yn syfrdanol.
Mae
Cwmystwyth wedi'i leoli tua 20 milltir o Aberystwyth. Ewch ar daith o Aberystwyth i Gwmystwyth, drwy Bontarfynach, er mwyn darganfod pa atyniadau sydd yn yr ardal.
Disgrifiodd yr AA y siwrnai drwy Gwmystwyth ar y B4574 fel un o'r "deg siwrnai harddaf yn y Byd."
Gellir olrhain hanes mwyngloddio yn y dyffryn yn ôl dros 4,000 o flynyddoedd ac mae tirwedd Cwmystwyth yn unigryw, yn wir nid oes unman arall sy'n debyg yng Nghanolbarth Cymru. Lle bu unwaith ddyffryn yn llawn diwydiant, yn awr nid oes ond adfeilion i goffáu'r mwynwyr a weithiodd ac y bu farw yma.
Mae gweddillion yr adeiladau i'w gweld o'r ffordd, felly nid oes angen brysio er mwyn gwerthfawrogi'r olygfa fythgofiadwy.
Mae'r ardal wedi'i dynodi'n
o ganlyniad i'r diddordeb daearegol a biolegol sy'n perthyn i'r safle.
A fyddech mor garedig â pharchu'r safle yn ystod eich ymweliad.
Am fwy o wybodaeth am Gwmystwyth, ymwelwch â: