Boed yn lonydd gwledig tawel gyda'u llu o flodau gwyllt ac arogl Gwyddfid yr haf neu'r adrenalin o fynd ar lwybr i feiciau mynydd, mae rhywbeth i bob un sy'n hoffi teithio ar ddwy olwyn yng Ngheredigion.
• I Feicwyr ffordd, mae gan
Rwydwaith Beicio Cenedlaethol Sustrans ddau lwybr yn yr ardal:
•
llwybr 81 NCN - Mae
Lôn Cambria yn daith dwy ganolfan rhwng yr Amwythig ac Aberystwyth, gan fynd trwy Gwm Elan, Cwmystwyth a Phont-rhyd-y-groes.
•
llwybr 82 NCN – Mae
Lôn Teifi yn ymestyn o Aberystwyth (trwy NCN81) i Bont-rhyd-y-groes, yna mae'n mynd i gyfeiriad y de-orllewin ar hyd lonydd tawel afon Teifi tuag at Aberteifi ac Abergwaun.
Mae
llwybrau 81 ac 82 NCN yn mynd trwy ardaloedd a chymunedau a arferai fod yn fasnachol iawn o ganlyniad i'r diwydiant cloddio plwm.
Ceir tair
Canolfan Egwyl Beicio Cymru yng Ngheredigion sy'n diwallu anghenion ymwelwyr sy'n beicio. Mae dwy o'r canolfannau hyn yn cysylltu â llwybr 82 NCN yn Llanbedr Pont Steffan a Thregaron ac yn ne'r sir yn Aberteifi. Mae'r drydedd ganolfan yn cysylltu trefi arfordirol Aberaeron a Cheinewydd.
• Mae
Llwybr Rheidol yn llwybr beicio Ceredigion ag arwyddion sy'n ymestyn o Aberystwyth i Bontarfynach gan deithio ar hyd lonydd tawel cwm Rheidol – sy'n adnabyddus mewn cylchoedd cloddio am y Rheidol a chloddfeydd cysylltiedig. Beth am fynd â'ch beic ar y trên i Bontarfynach a beicio yn ôl i lawr y dyffryn i Aberystwyth? Dilynwch y chysylltiad i
Lwybr Beicio'r Rheidol
• Bydd
Llwybr arfaethedig Ystwyth yn eich galluogi i fynd ar daith o Aberystwyth i Dregaron ar hyd llwybr afon Ystwyth. Mae
Llwybr Ystwyth yn llwybr beicio, yn llwybr ceffylau ac yn llwybr i gerddwyr sy'n 34 cilomedr o hyd ac sy'n cael ei ffurfio ar hyn o bryd, ac ar ôl ei gwblhau, bydd yn addas i bob gallu.
• I'r rhai mwy anturus, ceir
canolfan feicio mynydd Cymru yng Nghanolfan
Ymwelwyr Coedwig Bwlch Nant yr Arian, a leolir ar ffordd A44 i'r dwyrain o Aberystwyth. Mae Bwlch Nant yr Arian yn cynnig dros 35 cilomedr o
lwybrau beicio mynydd o gwmpas nifer o safleoedd cloddfeydd hanesyddol.
O'r safle hwn, gellir cyrraedd ardaloedd fel Cwmsymlog, Cwmerfyn, Goginan, Esgair Hir a Hafan trwy ddefnyddio llwybrau a ffyrdd coedwig. Sylwer: Nid yw'r llwybrau i'r safleoedd hyn yn cynnwys arwyddion a bydd angen eich bod yn gallu darllen mapiau er mwyn eu defnyddio.
I'r rhai hynny y mae ganddynt fwy o ddiddordeb mewn adrenalin yn hytrach na safleoedd hen gloddfeydd, mae'r ganolfan yn cynnig tri
llwybr beicio mynydd gwych:
• Mae
Llwybr Pendam yn llwybr 9 cilomedr o hyd sy'n cynnwys rhai adrannau sy'n dechnegol heriol
• Mae
Llwybr y Copa yn anoddach ond mae'n cynnig 16 cilomedr o feicio i fyny ac i lawr dros lwybr un lôn pwrpasol.
•
Llwybr Syfydrin Continental Tyres yw'r her eithaf ym Mwlch Nant yr Arian. Mae'r llwybr yn cynnwys adrannau o'r ddau llwybr coedwig arall gan ymestyn y profiad i lwybr diffeithwch sydd dros 35 cilomedr.
Cysylltiadau eraill cysylltiedig
>>> Yn ôl i weithgareddau