• Gellir olrhain mwyngloddio yng Ngheredigion yn ôl i'r
Oes Efydd. Ymhen amser, y prif fetelau a gynhyrchwyd oedd
plwm, zinc ac arian, gydag
ychydig o gopr a grisial trwm (barytes).
• Golygai cloddio am fwynau dynnu defnydd o ochr yr hollt serth
(gwythiennau mwyn) yn y graig. Yn wreiddiol, byddai'r mwynfeydd wedi bod yn weithfeydd brig (ar yr wyneb), yn chwilio am gopr o bosibl, a byddai rhwyddineb tynnu'r mwyn allan yn bwysicach na faint o fwyn oedd ar gael.
• Roedd galw mawr am blwm yn ystod goresgyniad y Rhufeiniaid ac efallai mai dyma pryd y cyflwynwyd y dull o agor twneli llorweddol – sef
mynedfeydd (adits).
• Defnyddid mynedfeydd ar gyfer
mynd mewn, draenio, a chael y mwynau allan. Gwnâi tir mynyddig Canolbarth Cymru hyn yn haws.
• Pan gloddir twnnel dan ddaear i gysylltu siafftiau heb dorri i'r wyneb, gelwir hyn yn
lefel neu'n bonc.
• Weithiau gelwir mwyngloddio am fwynau metalig yn “fwyngloddio craig galed”, ac fel yr awgryma'r enw, rhaid oedd tynnu mwynau o graig galed.
• Wrth i'r mwyngloddwyr weithio drwy'r graig galed, roedd y rhan fwyaf o'r lefelau a agorwyd yn cynnal eu hunain ac nid oedd angen
“coedyn pwll” (pit props) fel y ceid wrth gloddio am lo - oni bai pan fyddai lefel yn taro ar ddaear wael.
• Os yw lefel yn dilyn gwythïen, fe'i gelwir yn “doriad” (drive) neu'n “ddrifft”.
• Mewn
“toriad” neu
"ddrifft” gellid tynnu defnydd oddi tan y lefel neu uwch ei phen. Pan fo defnydd wedi'i dynnu o uwchben, llenwid y gwagle yn aml yn ôl â chraig wastraff wedi'u cynnal ar ddarnau o bren. Gosodwyd y pren yn y graig i bontio'r lefel ychydig yn uwch na'r uchder oedd ei angen i gerdded. Pan dynnid defnydd oddi isod, rhoddid llawr pren “ffug” er mwyn sicrhau bod modd tramwyo drwy lefel. Ymhen amser byddai'r pren hyn yn pydru, gan achosi cwympiadau.
• Byddid yn defnyddio coed ac yn ôl-lenwi â chraig yn y lefelau neu bonciau hefyd. Gellid gwneud defnydd da o graig wastraff drwy ei defnyddio i gynnal ochrau neu “fochau” (cheeks) y lefel neu bonc yn hytrach na'i chludo allan o'r fwynfa i'w gwaredu. Byddai'r ôl-lenwi hwn hefyd yn blatfform gweithio cyfleus i'r mwyngloddwyr.
• Gelwir yr ardal lle cloddir gwythïen o fwyn yn
“bonc”, ac weithiau edrychai fel hafn neu geunant anferth dan ddaear. Weithiau byddai'r rhain yn torri i'r wyneb a'r enw ar y rhain oedd
“gunnis”.
• Aethpwyd ati i ddyfnhau llawer o'r gweithfeydd brig cynharaf mewn amser gan greu siafftiau. Wrth dynnu'r mwynau, aed hyd yn oed yn ddyfnach gan dorri mwy o lefelau i'w cysylltu o'r llawr isaf.
• Yn y pen draw, âi'r siafftiau mor ddwfn fel nad oedd hi'n ymarferol eu draenio yn naturiol o'r lefelau. Byddai'n rhaid wedyn pwmpio a chodi yn fecanyddol.