Jump to content
Title: Ysbryd y Mwynwyr - Spirit of the Miners
Waterwheel at LlywernogYstrad EinionChimney, Taliesin
 

Pontarfynach


Cyrchfan boblogaidd i dwristiaid ers dyddiau'r pererinion cynnar, mae Pontarfynach yn fwy poblogaidd nawr am ei dair pont, ei reilffordd stêm a'i rhaeadrau ysblennydd.

Er nad oes gweithfeydd mwyn ym Mhontarfynach ei hun, mae'r pentref wedi'i leoli yng nghanol gweithfeydd mwyn, gydag Ystumtuen i'r gogledd, Pont-rhyd-y-groes i'r de, Cwmystwyth i'r dwyrain a Rheidol i'r gorllewin.

Mae nifer o gyfleusterau ar gael yn y pentref, er enghraifft, caffi'r 'Railbar', siop, swyddfa bost a chyfleusterau llety ym Mharc Carafannau'r 'Woodlands' a nifer o westai a sefydliadau gwely a brecwast.
Ceir mwy o wybodaeth ar wefan Pentir Pumlumon website.

Pontarfynach
Devils Bridge c1800



Mae'r pentref yn enwog ac yn boblogaidd gan ymwelwyr oherwydd trefniant unigryw'r tair pont - y naill ar ben y llall a rhaeadrau byrlymog yr afon Mynach.

Pontarfynach yw'r enw am 'Devil's Bridge' yn y Gymraeg, (a chaiff ei ynganu Pont-ar vunnack) sy'n golygu “pont y mynach”.

Credir bod y bont wreiddiol wedi'i hadeiladu naill ai gan Fynachod Sistersaidd Ystrad Fflur neu gan y 'Knights Templar'. Y Cyngor Sir a fu'n gyfrifol am adeiladu'r bont ddiweddaraf a hynny yn niwedd y ganrif ddiwethaf..



Rheilffordd Cwm Rheidol
Rhaeadrau Bontarfynach

Mae Rheilffordd Cwm Rheidol yn uno Aberystwyth a Phontarfynach, lle gwelir rhaeadrau ysblennydd a golygfeydd godidog o'r ucheldir.
Gallwch deithio ar drên stêm sy'n teithio ar hyd rheilffyrdd culion, a hynny ar gyflymdra hamddenol o Aberystwyth i fyny i Bontarfynach. Cewch fwynhau golygfeydd godidog Cwm Rheidol a chael cyfle i weld y gweithfeydd mwyn ar hyd y daith. Agorwyd y rheilffordd yn wreiddiol er mwyn gwasanaethu gweithfeydd mwyn Cwm Rheidol.




Mae llwybr beiciau “Llwybr Rheidol” hefyd yn cychwyn yn Aberystwyth ac yn gorffen yn y pentref.

Y Bwa


Ychydig filltiroedd i'r de o Bontarfynach ar yr B4574 i Gwmystwyth mae safle'r Comisiwn Coedwigaeth a adwaenir fel y Bwa. Enwyd yr ardal hon ar ôl y bwa cerrig sydd dros y ffordd. Fe'i codwyd ym 1810 gan Thomas Johnes, cyn-berchennog Ystâd yr Hafod gyfagos, i nodi Jiwbilî Aur y Brenin Siôr III.

Mae maes parcio ceir, toiledau ac ardal bicnic yno, ynghyd â nifer o lwybrau cerdded drwy Goedwig Meherin. Gwelir golygfeydd i gyfeiriad mwyngloddiau Bodcoli a Nantycreuau.
Am fwy o wybodaeth gweler:
Safle Picnic "Y Bwa"


Llefydd i'w gweld