Cyn dyfodiad dyn, dylanwadwyd ar dirluniau gogledd Ceredigion gan rymoedd byd natur, gan greu'r gwythiennau mwyn y byddai dyn yn eu darganfod yn nes ymlaen.
Am 4000 o flynyddoedd, darganfuwyd mwynau ac fe'u tynnwyd o'r ddaear wrth i'r marchnadoedd a'r technolegau ddatblygu.
Ar ôl i'r farchnad am fwynau ddirywio, gadawyd y cloddfeydd ac wedi hyn, gwelwyd grymoedd natur ac amser yn dechrau ar y broses o adennill y tirlun unwaith eto.
Mae
fflora a ffawna y tirlun yn esblygu, gan ddefnyddio'r cynefinoedd a'r amgylcheddau newydd i'w cynnal.
Mae'r cynefinoedd a'r amgylcheddau newydd hyn yn unigryw i safleoedd cloddfeydd metel ac mae angen rhoi ystyriaeth arbennig iddynt at ddibenion
cadwraeth.