Adit: Twnel wedi ei yrru i ochr bryn neu fynydd er mwyn cael mynediad at y gwaith tanddaearol neu er mwyn draenio'r twnel.
Ôl-lenwad: Cerrig gwastraff wedi'u ymgasglu mewn stôb.
Barics: Lluestai a godwyd gerllaw nifer o fwynfeydd anghysbell ar gyfer lletya'r mwynwyr yn ystod yr wythnos gwaith.
Blacjac: Cymysgedd o sinc a swlffwr – mwyn sinc.
Cerwyn 'Budle': Peiriant a ddefnyddid i wahanu'r mwyn a oedd wedi'i falu'n fân oddi wrth y rwbel.
Capten: Arolygwr neu rheolwr y mwynglawdd.
Malwr: Peiriant a ddefnyddwyd i falu mwyn.
Trin y mwyn: Y proses o gwahanu mwyn oddi wrth ddeunydd gwastraff.
Drifft: Twnnel wedi'i yrru yn wastad o un ran o'r fwynglawdd i ran arall a all hefyd ddilyn gwythïen fwyn.
Siafft Peiriant: Siaft sydd wedi'i osod gyda offer pwmpio.
Gwrhyd/Gwryd: Hen uned o fesuriad a arferid gan y mwynwyr. 1 gwryd = 6 troedfedd – yn wreiddiol lled braich dyn o flaen bys i flaen bys.
Gosod tân: Dull hynafol o dorri'r cerrig i fyny gan eu cynhesu gyda than a wedyn diffodd gyda dŵr.
Sbwriel: Deunydd annymunol e.e. craig neu carreg wen sy'n amgylchynu'r mwyn gwerthfawr.
Morthwylion: cerrig mawr a ddefnyddwyd i falu'r mwyn yn ystod yr Oes Efydd.
Cibl: Bwced allan o bren neu haearn a ddefnyddwyd i godi'r mwyn o'r mwynglawdd.
Launder: Cafn wedi'i wneud allan o goed ar gyfer cludo dŵr.
Leat: Sianel o ddŵr ar y wyneb gwnaethpwyd i gludo dŵr, weithiau dros pellteroedd hir.
Lefel: Twnnwl wedi ei yrru ar wastad am fynediad ac er mwyn draenio.
Llwybr y Mwynwyr: Llwybr a ddefnyddiau'r mwynwyr i fynd a dod yn ôl o'r gwaith.
Ocar: Mwyn melyn a ddefnyddir i roi lliw mewn paent.
Cloddfa agored: Cloddiadau, tebyg i'r hyn a geir mewn chwarel, a grëwyd wrth i'r mwyn sydd yn gorwedd yn agos i'r arwyneb gael ei gludo ymaith.
Mwyn: Y mwyn yn y cyflwr a ddaw o'r gwaith mwyn.
Tŷ Powdwr: Stordy cadw ffrwydrau.
Mwyn y Crochenydd: Galena o ansawdd gwael gydag ond ychydig o fwyn ynddo.
Siafft: Twll unionsyth yn arwain lawr i'r mwynglawdd.
Mwyndoddi: Tynnu metel o fwyn trwy cynhesu.
Tomen: Ardal o gerrig gwastraff sydd wedi'u dympio o ganlyniad o weithgarwch mwyngloddio – hefyd yn adnabyddus fel dympiau/tomenni.
Stôb: Twll tan-ddaear â greuwyd trwy gwaredu mwyn.
Gwythïen: Agen mewn craig wedi ei lenwi â dyddodion mwynol.
Golchfa: Lle i olchi'r mwyn.
Dyfais troi (Whim): Winsh a fyddai'n cael ei gweithio gan geffylau, stêm neu bŵer dŵr er mwyn codi mwyn.
Winsh: Dyfais gludadwy ar gyfer codi llwythi, wedi'i phweru gyda llaw, stêm neu awyr.
Siafft awyr iach 'Winze': Siafft danddaearol sydd wedi'i thyllu am i lawr.
Isod mae eglurhad o rai o dermau mwyngloddio sydd wedi'u rhestri uwchben.