Jump to content
Title: Ysbryd y Mwynwyr - Spirit of the Miners
Cwm YstwythYstrad EinionWaterwheel at Llywernog
 

Nant-y-Moch


Mae cronfa ddŵr syfrdanol Nant-y-Moch ger Ponterwyd yn un o'r cronfeydd dŵr ifancaf ym Mhrydain ar ôl cael ei greu ym 1987, ac mae'n rhan o gynllun pŵer trydan dŵr Cwm Rheidol. Wrth greu'r argae, boddwyd y cwm, a oedd yn cynnwys pentref bach Nant-y-Moch a'i dreftadaeth cloddio lleol.

Golygfa Cronfa ddŵr Nant-y-Moch




Ewch ar daith a fydd yn mynd â chi ar hyd rhai o olygfeydd mwyaf hyfryd yr ardal. Gall y daith ymestyn o Bonterwyd heibio Nant y Moch a gorffen yn Nhalybont.






Mae gan ardal Nant y Moch ac Esgairhir gyfoeth o hanes mwyngloddio sy'n cynnwys gwaith mwyn Bwlchglas, gwaith mwyn a chwarel Hafan a llawer mwy.

Hafan:
Roedd tramffordd yr Hafan yn dringo o Lanfihangel (sydd nawr yn adnabyddus fel Llandre) i Dalybont ac ar hyd llethrau deheuol y Leri, trwy Fwlchglas heibio i Allt-ddu, gan orffen ar droed llethr yr Hafan. Defnyddwyd tri locomotif ar y dramffordd – y Fictoria, Talybont a'r Hafan. Roedd y Fictoria yn rhedeg am 500 o lathenni ar 12 o Fai 1897 ac ar yr 20fed o Dachwedd 1899 bu'n rhaid i'r dramffordd ddod i ben oherwydd bod y cwmni wedi gorfod ymddiddymu'n wirfoddol. Hyd yn oed heddiw wrth edrych i lawr o chwarel yr Hafan i'r dramffordd yr ydych yn gallu gweld ôl yr hen drac ar ochr y mynydd.

Bwlchglas:
Rhedai'r dramffordd ar hyd llethr deheuol y cwm gan basio rhwng adeiladau'r hen waith mwyn ym Mwlchglas ar y ffordd i'r inclein. Bu'n rhaid i'r mwynglawdd gau yn 1923. Gellir parhau i weld gweddillion y gwaith prosesu concrit.



Esgairhir ac Esgairffraith

Pwll Olwyn yn Esgairffraith


Mae Esgairffraith ger llaw Esgairhir ac mae'r ddau ar yr un wythïen fwynol. Trwy gydol eu hoes datblygodd yr ardal – adeiladwyd barics i'r mwynwyr, datblygwyd systemau cronfeydd a systemau 'leats' i bweru dŵr, a pwll olwyn mawr ar gyfer pwmpio'r ddau fwynglawdd, yn Esgairffraith. Ail agorwyd y gweithfeydd mwyn yn 1854, pan ymwelodd George Borrow a'r swyddfeydd oedd newydd eu hadeiladu. Yn ystod ei oes 'roedd y gweithfeydd yn enwog am ei rhagolygon rhy optimistaidd, enillion gwael, sgandal a methdalu a ailadroddwyd sawl gwaith. Gwerthwyd Esgairhir ac Esgairffraith am y tro olaf yn 1908.

Heddiw, gwelir gweddillion sy'n cynnwys y barics, siafftiau a thyllau agored, dympiau gwastraff, pyllau olwynion a lloriau trin. Mae olion sylfaen y swyddfa lle arhosodd George Borrow ac a dderbyniodd lety, i'w gweld heddiw. Mae'r digwyddiad hwn ym mhenodau 80 -81 yn llyfr enwog George Borrow “Wild Wales.”
Esgairhir Landscape



Mae'n bosib ymweld â'r ddau safle ond mae Esgairffraith ar dir Comisiwn Coedwigaeth felly dylid cael caniatâd.







Gyda diolch i Robert Ireland



>>>> Lleoliadau i'w gweld