Jump to content
Title: Ysbryd y Mwynwyr - Spirit of the Miners
Waterwheel at LlywernogCwm YstwythYstrad Einion
 

Nant-y-Moch


Mae cronfa ddŵr syfrdanol Nant-y-Moch ger Ponterwyd yn un o'r cronfeydd dŵr ifancaf ym Mhrydain ar ôl cael ei greu ym 1987, ac mae'n rhan o gynllun pŵer trydan dŵr Cwm Rheidol. Wrth greu'r argae, boddwyd y cwm, a oedd yn cynnwys pentref bach Nant-y-Moch a'i dreftadaeth cloddio lleol.

Golygfa Cronfa ddŵr Nant-y-Moch




Ewch ar daith a fydd yn mynd â chi ar hyd rhai o olygfeydd mwyaf hyfryd yr ardal. Gall y daith ymestyn o Bonterwyd heibio Nant y Moch a gorffen yn Nhalybont.






Mae gan ardal Nant y Moch ac Esgairhir gyfoeth o hanes mwyngloddio sy'n cynnwys gwaith mwyn Bwlchglas, gwaith mwyn a chwarel Hafan a llawer mwy.

Hafan:
Roedd tramffordd yr Hafan yn dringo o Lanfihangel (sydd nawr yn adnabyddus fel Llandre) i Dalybont ac ar hyd llethrau deheuol y Leri, trwy Fwlchglas heibio i Allt-ddu, gan orffen ar droed llethr yr Hafan. Defnyddwyd tri locomotif ar y dramffordd y Fictoria, Talybont a'r Hafan. Roedd y Fictoria yn rhedeg am 500 o lathenni ar 12 o Fai 1897 ac ar yr 20fed o Dachwedd 1899 bu'n rhaid i'r dramffordd ddod i ben oherwydd bod y cwmni wedi gorfod ymddiddymu'n wirfoddol. Hyd yn oed heddiw wrth edrych i lawr o chwarel yr Hafan i'r dramffordd yr ydych yn gallu gweld ôl yr hen drac ar ochr y mynydd.

Bwlchglas:
Rhedai'r dramffordd ar hyd llethr deheuol y cwm gan basio rhwng adeiladau'r hen waith mwyn ym Mwlchglas ar y ffordd i'r inclein. Bu'n rhaid i'r mwynglawdd gau yn 1923. Gellir parhau i weld gweddillion y gwaith prosesu concrit.



Esgairhir ac Esgairffraith

Pwll Olwyn yn Esgairffraith


Mae Esgairffraith ger llaw Esgairhir ac mae'r ddau ar yr un wythïen fwynol. Trwy gydol eu hoes datblygodd yr ardal adeiladwyd barics i'r mwynwyr, datblygwyd systemau cronfeydd a systemau 'leats' i bweru dŵr, a pwll olwyn mawr ar gyfer pwmpio'r ddau fwynglawdd, yn Esgairffraith. Ail agorwyd y gweithfeydd mwyn yn 1854, pan ymwelodd George Borrow a'r swyddfeydd oedd newydd eu hadeiladu. Yn ystod ei oes 'roedd y gweithfeydd yn enwog am ei rhagolygon rhy optimistaidd, enillion gwael, sgandal a methdalu a ailadroddwyd sawl gwaith. Gwerthwyd Esgairhir ac Esgairffraith am y tro olaf yn 1908.

Heddiw, gwelir gweddillion sy'n cynnwys y barics, siafftiau a thyllau agored, dympiau gwastraff, pyllau olwynion a lloriau trin. Mae olion sylfaen y swyddfa lle arhosodd George Borrow ac a dderbyniodd lety, i'w gweld heddiw. Mae'r digwyddiad hwn ym mhenodau 80 -81 yn llyfr enwog George Borrow Wild Wales.
Esgairhir Landscape



Mae'n bosib ymweld â'r ddau safle ond mae Esgairffraith ar dir Comisiwn Coedwigaeth felly dylid cael caniatâd.







Gyda diolch i Robert Ireland



>>>> Lleoliadau i'w gweld