Mae'r digwyddiadau hyn wedi rhoi cymorth i bobl lleol ac rheini sydd wedi dod ymhellach i ffwrdd, i ddysgu mwy am ddiwydiant sydd wedi ffurfio ardal ogleddol y sir. Mae'r digwyddiadau wedi rhoi cyfle i bobl sy'n frwdfrydig dros fwyngloddio i drosglwyddo gwybodaeth ar destun y mae nhw ei hunain wedi gwario eu bywydau yn astudio. Mae'r digwyddiadau a threfnwyd gan Ysbryd y Mwynwyr yn cynnwys penwythnosau treftadaeth, digwyddiadau cymunedol a phenwythnos o arddangosfeydd. Gyda nifer o brosiectau mewn proses o ddatblygiad, bydd nifer o ddigwyddiadau i'w cynnal yn y dyfodol i hysbysebu'r prosiectau llwyddiannus.
Mae yna nifer o ddigwyddiaday trwy gydol y flwyddyn. Dilynwch y
ddolen am restr eang o ddigwyddiadau sydd yn mynd ymlaen trwy'r sir.
Dilynwch y digwyddiadau isod am fanylion ar ddigwyddiadau'r gorffennol:
Penwythnos Treftadaeth Awst 2007
Fe wnaeth y rheini sy'n ymddiddori mewn mwyngloddio, pobl leol ac ymwelwyr dilyn ôl traed hen fwynwyr Sir Aberteifi a oedd yn mwyngloddio yn rhannau o'r ardal tua 4000 o flynyddoedd yn ôl fel rhan o Benwythnos Treftadaeth dros ŵyl y Banc ym mis Awst.
Cynhaliwyd Ysbryd y Mwynwyr gystadleuaeth i enwi'r mwynwr y gwelwch ar rai o dudalennau ein gwefan.
Ennillodd Miriam Davies y gystadleuaeth a'r enw buddugol oedd
Iwan.
Bu llawer o ddiddordeb yn ddiweddar mewn ail-greu technegau mwyngloddio yr Oes Efydd. Cafwyd yr ail-greu yn ystod penwythnos 15fed & 16eg o Orffennaf yn Fferm Dolebolion, Pontrhydfendigaid, fel rhan o gynllun Ysbryd y Mwynwyr gan ddenu oddeutu 100 o ymwlewyr dros y penwythnos.
Cafwyd trigolion lleol ac aelodau o Ymddiriedolaeth Cadwraeth Mwynfeydd Cymru gyfle unigryw i ymweld a lleoliadau anghysbell i ymwneud â threftadaeth mwyngloddio gogledd Ceredigion.
Cynhaliwyd noson agored yn Nhalybont i roi cyfle i glywed mwy am hanes y gymuned a'i phobl.
Cynhalwyd Benwythnos Treftadaeth yn ardal gweithfeydd Gwmsymlog a Thalybont.