Tyfodd pentref hanesyddol Pontrhydfendigaid gerllaw Abaty Sistersaidd Strata Florida sydd gerllaw. Mae'r pentref presennol, gyda'i dai arddull Sioraidd, yn bennaf o ganlyniad i ffyniant y cloddfeydd plwm diweddarach.
Lleolir Strata Florida (Ystrad Fflur) yn nyfnderoedd calon Ceredigion, ym mhentref Pontrhydfendigaid. Yr oedd Ystrad Fflur ar un adeg yn Abaty Sistersaidd mawr a'i sefydlwyd yn 1164 a ddatblygodd yn safle arwyddocaol fel rhan o ddiwyllaint Cymreig ac wedi claddu ar bwys yr Abaty maer bardd Cymraeg Dafydd ap Gwilym.
Roedd prif fwyngloddiau'r gymdogaeth yn Esgair Mwyn, Fairchance, Llwyn Cwyddell,CwmMawr, Abbey Consols/Bronberllan a Bendigaid. Ond ychydig a erys o'r diwydiant prysur a oedd ar un adeg yn ffynhonnell cyfoeth y pentref.
Cais y Pafiliwn sydd wedi ei ailadeiladu'n ddiweddar, ailsefydlu Pontrhydfendigaid fel canolfan gelfyddydol yn yr ardal.
Yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg, dadorchuddiwyd gweddillion eglwys yr Abaty a rhan o'r fynachlog ac mae'r rhian bellach yn cael eu cynnal ynghyd â'r arddangosfa o deils gwreiddiol o'r oesoedd canol gan cadw.
Ychydig i'r gogledd o'r Abaty saif gwaith mwyn Bron y Berllan lle mae cloddio wedi mynd ymlaen ar yr hen safle mwyngloddio sydd â llawer o weddillion ar ôl. Mae'n bosib fod hwn yn un o'r safleoedd a ddefnyddiodd y mynachod o'r Abaty.
Ers 2004 mae cloddio rhagarweiniol wedi digwydd gan Brifysgol Llambed ac yn 2006 ariannwyd rhan o'r cloddio gan Ysbryd y Mwynwyr. Bydd y brif raglen o waith yn cymryd lle flwyddyn nesa'. Bwriad yr ymchwil fewn i dirwedd hanesyddol yr ardal yw i ddatblygu cyfleusterau yn ymwneud â thwristiaeth ac addysg. Fydd y gwaith hyn yn digwydd gan ymddiriedolaeth annibynnol ystrad fflur, gyda chymorth Pentir Pumlumon. Felly fydd y gwaith yn parhau am flynyddoedd i ddod!
Mae gan y pentref nifer o gyfleusterau gan gynnwys siop, swyddfa bost a dau dafarn - Y Llew Coch a
gwesty'r Llew Du.