Mae'r prosiect yn rhoi adroddiad i'r cyhoedd am gyd-destun daearegol cloddio metelifferaidd yng Ngheredigion fel cefndir ar gyfer treftadaeth gloddio Maes Mwynau Canolbarth Cymru. Rhoddir yr adroddiad ar ffurf byrddau gwybodaeth dwyieithog mewn tri safle – Cwmystwyth, Cwmrheidol a Chwmsymlog. Dewiswyd y safleoedd i ddangos agweddau allweddol ar y cloddfeydd.
Bydd y byrddau gwybodaeth yn cynnwys: testun dwyieithog, mapiau, diagramau a lluniau er mwyn esbonio'r prosesau daearegol a arweiniodd at leoliad y gwythiennau mwynol; lluniau o'r mwynau sy'n bresennol; sylwadau am bwysigrwydd hanesyddol y safle; a bydd yn cynnwys sylwadau am reolaeth mwynau ar blanhigion, i ddangos y berthynas rhwng geoamrywiaeth a bioamrywiaeth.
Yr ail panel dehongli yng Nghwm Rheidol yw hwn sydd o ganlyniad i'r prosiect cyntaf y gyllidwyd gan Ysbryd y Mwynwyr. Mae'n addas yn gronolegol oherwydd mae'r gwybodaeth yn seiliedig ar ddaeareg 3 safle mwyngloddio sef Cwmystwyth, Cwm Rheidol a Chwmsymlog. Mae'n agor y llyfr i bennod cyntaf stori'r mwyngloddio - yn datblygiad y tirwedd ac yn ddilynol datblygiad y diwydiant mwyngloddio yn yr ardal.
Gweler y panel dehongli ola yng
Nghwmsymlog. Mae yn rhan o brosiect arall sydd yn mynd ymlaen yn y safle.
Text y bwrdd dehongli yng Nghwsymlog
Text y bwrdd dehongli yng Nghwmystwyth
Text y bwrdd dehongli yng Nghwm Rheidol
[Noder: Mi fydd y dogfennau yn cymryd amser i'w llwytho felly ond yn addas os oes gennych band eang.]
Dyddiad cymeradwyo'r prosiect: Tachwedd 2005.