Jump to content
Title: Ysbryd y Mwynwyr - Spirit of the Miners
Ystrad EinionChimney, TaliesinWheelhouse, Bryn yr Arian
 

Tal-y-bont, Talieisin a Ffwrnais


Pentref ar y brif ffordd A487 rhwng Aberystwyth a Fachynlleth sydd â chyfoeth o hanes yw Dalybont. Yn enwog am melinau gwlân a hanes mwyngloddio, mae'r ddau dafarn ar lawnt y pentref yn lle da i gymryd luniaeth tra'n darganfod yr ardal.Pam na ymchwiliwch chi'n ddyfnach i hanes yr ardal gan ddilyn ol traed y mwynwyr. Codwch daflen sydd ar gael yn unrhyw un o'r siopau lleol, caffi's neu thafarndai ac ewch am dro i fynyddoedd gogledd Ceredigion ar lwybrau sydd wedi cael eu hyrwyddo. Dilynwch y linc i ddarganfod mwy. Fe gellir hefyd glywed mwy o storiau'r ardal trwy lawrlwytho ffeiliau MP3 ac fe allwch hefyd ymweld â'r byrddau dehongli sydd wedi'u lleoli yn yr ardal.

Tal-y-bont 1935


Gan olrhain ei wreiddiau yn ôl i oesoedd cynnar, tyfodd Tal-y-bont i fod y pentref ydyw heddiw tuag at ddiwedd y 18fed Ganrif. Dylanwadodd mwyngloddiau Allt-y-crib, Penpombren, Erglodd, Penybanc, a Bwlchglas/Hafan ar Dal-y-bont. Ymhellach i'r gogledd mae'r A487 yn mynd drwy bentrefi Tre'r Ddol, Taliesin a Ffwrnais. Roedd y pentrefi hyn yn dibynnu ar fwyngloddiau Brynarian, Pen-sarn, Llancynfelin a Pwll Roman, Lovedon a Chwm Einion.

Mae'n anodd dychmygu bod olwyn ddŵr fawr a'i hoffer cysylltiedig, fel tai y mathrwyr a'r efail unwaith yn dominyddu canol Tal-y-bont. Dechreuwyd cloddio ceuffordd ddofn Tal-y-bont yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac mae'n ymestyn am hanner milltir o dan y briffordd a'r pentref i mewn i ochr bryn Allt-y-Crib.


Mae gweithgarwch cloddio a phrosesu mwynau metel wedi bod yn digwydd yn y bryniau o gwmpas Tal-y-bont ers yr Oes Efydd ac amser y Rhufeiniaid ac mae'r gwaith archeolegol presennol yn yr ardal yn ehangu ein gwybodaeth am y cyfnod cynnar hwn. Tuag at ddiwedd y 18fed a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, gwelwyd y diwydiant yn datblygu ac mae modd gweld olion gweithgarwch cloddio yn yr ardal o gwmpas y pentref o hyd.
Adeiladwyd nifer o felinau gwlân gan ddwyn gwaith a ffyniant i'r ardal. Adeiladwyd tai a siopau, ynghyd â siopau, garej, dau fanc, tri chapel, eglwys ac ysgol yn y pentref. Mae Tyrrell Place wedi'i enwi ar ôl hen gapten cloddio a arferai fyw yn y pentref.
Ffotograff o'r awyr o Dalybont 1984

Erbyn 1835 roedd Melinau Leri yn defnyddio rhai o'r mathau mwyaf modern o offer yn y diwydiant gwlân. Byddai brethyn gwlanen yn cael ei werthu i ffermwyr a chloddwyr, neu mewn ffeiriau ledled y wlad a hyd yn oed ymhellach i ffwrdd i deilwriaid yn Llundain.

Credir bod Taliesin, un o'r beirdd Prydeinig cynharaf a gofnodwyd o'r 6ed ganrif, wedi byw ac wedi'i gladdu ger pentref Taliesin, oddeutu saith milltir i'r gogledd o Aberystwyth.








Ffwrnais

Furnace Falls

Mae Ffwrnais yn bentref bach anarferol ar ffordd A487 sy'n cynnwys ffowndri o'r 18fed ganrif a arferai fwyndoddi mwyn haearn. Roedd y fegin a oedd yn pwmpio aer i mewn i'r ffwrnais chwyth a yrrwyd gan olosg, yn cael ei gyrru gan yr olwyn ddŵr fawr, a yrrwyd gan Afon Einion yn syrthio fel rhaeadr.


Treftadaeth Llandre

Gwarchodfa Natur Ynys Hir
Gwefan cymunedol Llangynfelyn


>>>> Llefydd i'w gweld