Mae trefi, pentrefi ac ucheldir gogledd Ceredigion yn darparu cyfleoedd i'r rhai sydd â diddordeb mewn gweithfeydd mwyn ac i'r ymwelydd achlysurol sy'n mwynhau chwilota a chanfod pethau newydd mewn rhan o Gymru a esgeulusir yn aml.
Mae Ceredigion, ar Arfordir Gorllewinol Canolbarth Cymru, yn un o'r cyrchfannau twristiaeth arfordirol fwyaf gwyrdd yn y DU.
Mae marchogaeth, beicio a cherdded i gyd o fewn cyrraedd i'r traethau ar hyd Arfordir Treftadaeth Ceredigion. Mae'r traethau hyn wedi ennill gwobrau a gwelir dolffiniaid yn nofio'n chwareus gerllaw.
Mae celfyddydau ac adloniant safonol ar gael ar hyd y flwyddyn yng Ngheredigion ac yn wir, mae'n un o gadarnleoedd olaf yr iaith Gymraeg a'r diwylliant Cymreig.
• Bydd y dudalengweithgareddau yn rhoi fwy o fanylion am gyfleoedd cerdded a seiclo.
• Bydd y dudalen lleoliadau i'w gweld yn rhoi manylion ar rai o drefi a bentrefi allweddol yr ardal.
• Bydd y dudalen digwyddiadau yn rhoi manylion ar digwyddiadau sydd i ddod mewn cysylltiad â Ysbryd y Mwynwyr ac fydd yna linc i ddigwyddiadau eraill sydd yn mynd ymlaen drwy'r Sir.
Canolfan Croeso Aberystwyth
Ffordd y Môr, Aberystwyth, SY23 2AG.
Ffôn: 01970 612125
e-bost: