Jump to content
Title: Ysbryd y Mwynwyr - Spirit of the Miners
OchreYstrad EinionChimney, Taliesin
 

Pŵer dŵr mewn Mwyngloddio

Yr hen olwyn yn Llywernog

Defnyddiwyd pŵer dŵr mewn mwyngloddiau yn helaeth o'r dyddiau cynnar tan yr ugeinfed ganrif. Roedd rhai o'r olwynion dŵr dros-y-rhod hyn dros 50 troedfedd ar draws. Roedd yr olwynion mawr hyn yn wrthrychau a oedd yn creu argraff, ac yn amlwg iawn ar dirwedd Gogledd Ceredigion ar un adeg. Troesent yn ddiog a gyrru amrywiaeth o rodenni, pympiau, malwyr a winsis.
Yn niwedd yr 1800au roedd yn bosibl prynu olwyn ddŵr wedi'i hadeiladu'n barod yn Ffwndri Green's yn Aberystwyth.
Nid oes un o'r cewri hyn ar ôl. (Ond gallwch ymweld ag Amgueddfa Llywernog ble gwelwch rai llai o faint yn dal i weithio.) Mae tyllau'r olwynion, ac isadeiledd y llynnoedd a'r pynfeirch oedd ei angen i'r rhain i weithio, i'w gweld o hyd mewn safleoedd allweddol. Mae'r rhain yn rhoi syniad inni sut y bu'r olwynion hyn yn dominyddu'r tirwedd.


• Defnyddid dŵr yng nghyfnod cynnar mwyngloddio ar gyfer “sgwrio”. Adeiladwyd argae, a phan fyddai cyflenwad digonol wedi ei gronni rhyddheid y dŵr i sgwrio'r pridd ar yr wyneb a'r prysgwydd oddi ar ochr y mynydd.

• Gydag amser, ffurfiwyd llynnoedd i grynhoi'r dŵr, a fyddai wedyn yn cael ei ollwng yn ôl y galw, i yrru'r olwynion drwy gyfres o sianeli a elwid yn bynfeirch. Roedd rhai ohonynt yn ymestyn am filltiroedd ac angen system gymhleth o signalau i'w gweithio. Roedd yn arferol mewn rhai mwyngloddiau i ddyn adael y mwynglawdd yn y bore bach i agor y pynfeirch a dychwelyd yn yr hwyr i'w cau.

• Defnyddiai'r mwyngloddiau llai un olwyn ddŵr ar gyfer pwmpio, malu ac weithiau windio. Byddai nifer o olwynion mewn mwyngloddiau mwy, ble byddai un olwyn yn gwasanaethu'r llawr trin. Nes lawr y llethr byddai olwyn arall yn gwasanaethu siafft, fel bo'r dŵr yn cael ei ail ddefnyddio. Sianelid y dŵr oedd dros ben i olchi'r mwyn yn y broses o'i wahanu oddi wrth y garreg.
Drwm weindio



• Lleolir yr olwyn mewn twll olwyn wedi'i wneud o garreg solet gyda'r malwr, fel arfer ar ffurf rholer, yn sefydlog yn yr un adeiladwaith. Deuai'r pŵer i bwmpio a windio o'r cranc ar ochr arall y malwr. Byddai teclyn ar hwn i alluogi'r mwynwyr i ddefnyddio neu i beidio â defnyddio'r windiwr fel bo'r angen.




• Amrywiai'r dull o gysylltu cranc yr olwyn ddŵr â'r pympiau yn ôl y pellter a'r lleoliad. Adeiladwyd trên pŵer o ddarnau o goed a/neu rodenni haearn wedi'u cysylltu ac yn rhedeg ar roleri yn y ddaear. Medrai'r trenau hyn deithio am gryn bellter, a gellid newid cyfeiriad y pŵer yn llorweddol ac yn fertigol trwy ddefnyddio darnau onglog siglo.

rhôd ddŵr i bwmpio


• Roedd siafft danddaearol yn cael ei phwmpio gan olwyn ddŵr y tu allan i'r porth yng ngheuffordd ddofn Tal-y-bont. Roedd nifer o rodenni yn mynd drwy'r geuffordd am 500 llath yn gorwedd ar roleri wedi eu gosod yn llawr y lefel a darnau onglog i gyfeirio'r trên pŵer ar y troeon.

• Os oedd yr olwyn yn agos at y siafft, defnyddid cadwyn ar roleri wedi'u gosod mewn standiau ('Dolly Stands'). Mewn un mwynglawdd ger Pont-ar-fynach roedd siafft danddaearol y gellid ei chyrchu drwy geuffordd a oedd yn droellog. Gosodid yr olwyn ddŵr mewn twll olwyn yn y garreg y tu allan i'r porth a defnyddid cebl dur yn rhedeg ar roleri oddi ar furiau'r geuffordd ble roedd angen.

Pwmpio

Rhoden bwmp haearn


• Roedd rhodenni haearn, a ddefnyddid ar gyfer y trenau pŵer a'r rhodenni pwmpio, ble roedd y pwmpio yn cael ei wneud gan lifft un bwced, yn gyffredin yng Nghymru. Roedd rhaid i'r rhodenni, yn y lifft un bwced, fod y tu mewn i'r bibell ddŵr (rising main).

• Byddai'r pwmp yn codi dŵr trwy'r bibell, naill ai i ddyfrgist neu lander, ble byddai'n cael ei arllwys allan ar yr wyneb neu i mewn i geuffordd ddraenio. Gelwid pob rhan unigol o'r bibell, ynghyd â'r pwmp, yn “lifft”. Mesurid uchder y lifft mewn gwrhydau, (1 gwrhyd = 6 troedfedd). Pennid uchder pob lifft gan ddiamedr y bibell ddŵr a dyfnder y siafft. Byddai nifer o lifftiau a phympiau yn y siafftiau dyfnach.

• Defnyddid dau fath o bwmp – pwmp bwced a phwmp piston (neu bolyn.)


• Roedd pwmp bwced ar ffurf piston yn debyg i fwced â falf un ffordd yn y canol - felly'r enw, (er bod gan rai mathau o bympiau ddwy falf). Gelwid hon hefyd yn lifft dynnu. Byddai wedi ei osod uwchben blwch falf a elwid yn “flwch clac”. Byddai'r falf ar gau ar y flaen-stroc fel bo'r dŵr yn cael ei dynnu i fyny; agorid y falf glac isaf a gadael i'r dŵr i gael ei dynnu i fyny o'r swmp dan y bwced pwmp yr un pryd. Ar yr ôl-strôc byddai falf y piston yn agor er mwyn i'r dŵr lenwi'r gofod uwchben y lifft. Byddai'r falf glac ar gau yn rhwystro'r dŵr rhag llifo nôl i'r swmp.
Rhoden Pwmp



• Gelwid y pympiau piston hefyd yn 'bympiau polyn'. Gwthient y dŵr drwy flwch y falf ac i fyny'r bibell. Defnyddid y pympiau hyn gyda rhodenni coed trwm yn y siafftiau dyfnach ac roedd angen nifer o lifftiau. Yn y trefniant hwn, roedd y pwmp yn y swmp yng ngwaelod y siafft o hyd yn bwmp bwced.

• Pwysau'r rhodenni pwmpio yn syrthio dan rym disgyrchiant oedd yn gyfrifol am bwmpio, a phŵer y peiriant neu'r olwyn ddŵr yn codi'r rhodenni yn hytrach na phwmpio'r dŵr.




• Os oedd dros 600 troedfedd o rodenni pwmpio yn y siafftiau, roedd rhaid defnyddio 3 lifft wahanol; y ddwy isaf yn codi'r dŵr i ddyfrgist o ble byddai'n cael ei godi i'r lifft nesaf.

• Roedd y rhan fwyaf o'r siafftiau yng Nghymru, ar gyfartaledd, yn ychydig gannoedd o droedfeddi, â lefel gymharol isel o ddŵr ynddynt. Felly roedd yn bosibl cadw'r mwynglawdd yn sych ag un lifft o bympiau y tu mewn i un bibell haearn bwrw.

• Os oedd diamedr y bibell yn fychan roedd pwysau'r dŵr am uchder penodedig yn llai, felly roedd llai o lwyth ar y pwysau balans.

• Gallai pibell 6 modfedd mewn diamedr gynnal colofn o ddŵr i fyny at 470 troedfedd o uchder. Byddai un lifft fwced wedi'i osod yng ngwaelod y bibell uwchben y blwch falf. Byddai'r rhodenni, sef barrau haearn, wedi'u huno gyda'i gilydd gan goleri haearn, er mwyn hwyluso eu cysylltu neu'u datgysylltu.
Rhodyn pwmp cwadrant

• Trosglwyddid y pŵer o granc yr olwyn ddŵr i'r rhodenni fflat drwy symudiad nôl ac ymlaen. Oherwydd mai'r olwyn oedd yn pwmpio, roedd angen darparu pwysau balans i ôl-strôc yr olwyn. Rhoddid y balans hwn ar yr olwyn a choler y siafft oherwydd roedd yn bwysig fod y rhodenni fflat yn cael eu cadw'n dynn. Roedd trefniant coler y siafft ar ffurf T gwrthdro wedi'i wneud o bren a elwid yn 'balans bob'. Byddai rhodenni haearn yn cryfhau'r cyfan drwy fynd o'r postyn mwyaf hyd ben pellaf y trawst allanol. Byddai pen un trawst yn cysylltu â phen y rhoden bwmpio a phen y llall yn cario'r blwch pwysau. Cysylltid pen y trên pŵer wrth ben y postyn gan symud fel siglennydd.


• Yn y trefniant hwn, roedd y blwch pwysau'n cyfateb i bwysau'r golofn ddŵr yn y bibell gan gofio bod yr olwyn ddŵr yn darparu pŵer ar ôl-strôc a blaen-stroc y trên pŵer. Mae'n amlwg, felly, y byddai'r blwch pwysau ar y strôc godi yn helpu i godi'r golofn ddŵr yn y bibell.

• Yn y system lifft unigol hon, defnyddid platiau haearn yn hytrach na blychau wedi'u llenwi â cherrig fel gwrthbwysau.